YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 32

32
SALM 32
Bendithion edifeirwch
Crug-y-bar 98.98.D
1-4Mor ddedwydd y sawl y maddeuwyd
Ei drosedd, y cuddiwyd ei gam,
Na ddeil Duw’r un twyll yn ei erbyn,
Nad oes yn ei ysbryd ddim nam.
Tra oeddwn yn gwrthod cyfaddef,
Fe nychwn, dan gwyno’n ddi-les;
Yr oedd dy law’n drwm arnaf beunydd,
A sychwyd fy nerth fel gan des.
5-6Ac yna, bu imi gyfaddef
Fy mhechod i gyd wrthyt ti.
Dywedais, “Cyffesaf fy mhechod”,
A bu iti faddau i mi.
Am hyn, fe weddïa pawb ffyddlon,
Fy Nuw, arnat ti dan eu clwy,
A phan ddaw llifeiriant o ddyfroedd
Ni chânt byth nesáu atynt hwy.
7-10Ti ydyw fy nghysgod rhag adfyd.
Yr wyt yn f’amgylchu â chân.
Dywedaist, “Hyfforddaf di a’th ddysgu,
A chadwaf dy lwybrau yn lân.
Paid â bod fel mul neu fel ceffyl
Ystyfnig y mae’n rhaid tynhau
Yr enfa a’r ffrwyn i’w rheoli
Cyn byth yr anturiant nesáu”.
Daw poenau di-rif i’r drygionus,
Ond cylch o ffyddlondeb byth yw
Y gyfran gyfoethog sy’n aros
Y sawl sy’n ymddiried yn Nuw.
11Am hyn, llawenhewch yn yr Arglwydd,
Rai cyfiawn, a’i foli ar gân;
A chanwch yn uchel i’w enw,
Bob un y mae’i galon yn lân.

Currently Selected:

Salmau 32: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in