Salmau 52:8-9
Salmau 52:8-9 SCN
Ond fi, byddaf fel olewydden Yn iraidd yng ngardd tŷ fy Nuw; Ac yn ei ffyddlondeb y rhoddaf Fy hyder tra byddaf i byw. Diolchaf am byth iti, Arglwydd, Am bopeth a wnaethost i mi. Cyhoeddaf dy enw – da ydyw – Ymysg y rhai ffyddlon i ti.