Salmau 58:1-5
Salmau 58:1-5 SCN
Chwi dduwiau, a ydych mewn difrif Yn barnu yn gyfiawn o hyd? O na! Fe ddyfeisiwch gelwyddau, A gwasgar eich trais dros y byd. Anufudd o’r groth yw’r drygionus, Gwenwynllyd fel sarff yw y rhain, Fel gwiber a gaodd ei chlustiau Rhag clywed y swynwr a’i sain.