Salmau 66:8-12
Salmau 66:8-12 SCN
Molwch ein Duw ni, chwi bobloedd, Rhoes le inni ymhlith y byw. Ond fel coethi arian, buost Yn ein profi ni, O Dduw. Rhwydaist ni, rhoist rwymau amdanom, Sathrodd carnau meirch ein ffydd. Aethom trwy y tân a’r dyfroedd, Ond fe’n dygaist ni yn rhydd.