Salmau 66:13-16
Salmau 66:13-16 SCN
Dof i’th deml â phoethoffrymau; Talaf f’addunedau i gyd, Rhai a wneuthum pan oedd pethau’n Gyfyng arnaf am ryw hyd. Mi aberthaf basgedigion Yn bêr arogldarth i ti. Clywch, chwi oll sy’n ofni’r Arglwydd, Beth a wnaeth fy Nuw i mi.