YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 71

71
SALM 71
Gweddi yn amser henaint
Westminster Abbey 87.87.87
1-4Ynot, Arglwydd, ceisiais loches;
Na foed c’wilydd arnaf fi.
Achub fi yn dy gyfiawnder;
Bydd yn amddiffynfa i mi.
Gwared fi o law’r drygionus,
O fy Nuw, fy nghraig wyt ti.
5-8Ti, O Arglwydd, yw fy ngobaith.
Pwysais arnat ti bob cam
O’m hieuenctid. Ti a’m tynnodd
Allan gynt o groth fy mam.
Gwnaethost fi’n esiampl, ond molaf
Di o hyd, waeth beth fy nam.
9-12Na ad fi yn amser henaint.
Mae ’ngelynion croch eu llef
Yn dweud, “Ciliodd Duw oddi wrtho.
Nid oes neb a’i gwared ef”.
Na fydd bell oddi wrthyf, Arglwydd;
Cynorthwya fi o’th nef.
13-16Gwaradwydder fy ngelynion.
Molaf innau fwy a mwy
Dy weithredoedd grymus, Arglwydd,
Er na wn eu nifer hwy –
Moli i ddechrau dy gyfiawnder
Tuag ataf dan bob clwy.
17-18O’m hieuenctid, ti a’m dysgaist,
Ac rwy’n moli o hyd dy waith.
O fy Arglwydd, paid â’m gadael
Pan wy’n hen a phenwyn chwaith
Nes caf draethu i’r to sy’n codi
Am dy ryfeddodau maith.
19-20Hyd y nef y mae dy gryfder
A’th gyfiawnder di, O Dduw.
Ti, a wnaeth im weld cyfyngder,
A’m bywhei o’m gofid gwyw,
Ac o’r dyfroedd dan y ddaear
Ti a’m dygi i fyny’n fyw.
21-24Fe gynyddi fy anrhydedd,
A moliannaf innau di.
O Sanct Israel, ar y delyn
Canaf byth dy glod a’th fri.
Traethaf beunydd dy gyfiawnder
A’th ffyddlondeb mawr i mi.

Currently Selected:

Salmau 71: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in