YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 73:21-26

Salmau 73:21-26 SCN

Mor ddiddeall oeddwn yn fy siom a’m chwerwder, Ac yn ymddwyn fel anifail tuag atat ti. Ond, er hynny, yr wyf gyda thi bob amser. Yr wyt yn cydio yn fy neheulaw i. Fe’m cynghori i, a’m derbyn mewn gogoniant. Pwy sydd gennyf yn y nef na’r ddaear ond tydi? Er i’m cnawd a’m calon fynd i lwyr ddifodiant, Duw yw fy nghryfder byth, a’m cyfran i.