YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 78:1-8

Salmau 78:1-8 SCN

Gwrandewch fy nysgeidiaeth, fy mhobl, Damhegion anhraethol eu gwerth A draethodd ein tadau gynt wrthym Am Dduw a’i weithredoedd a’i nerth. Rhoes arnom ddyletswydd i’w traethu I’n plant dros yr oesau a fydd, Rhag iddynt hwy fod fel eu tadau’n Genhedlaeth derfysglyd, ddi-ffydd.