YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 81

81
SALM 81
Galwad am ufudd-dod
Diademata 66.86.D
1-5aCanwch hyd eitha’ch dawn,
A’ch telyn fwyn mewn hwyl,
I Dduw eich nerth; mae’r lloer yn llawn,
A ninnau’n cadw gŵyl;
A seiniwch utgorn llon,
Cans dyma ddeddf ein Duw,
A roes pan ddaeth â’r genedl hon
O wlad yr Aifft yn fyw.
5b-7Fe glywaf Dduw yn dweud,
“Mi ysgafnheais i
Y baich ar d’ysgwydd gynt, a gwneud
Yn rhydd dy ddwylo di.
Mi ddeuthum i’th fywhau
Mewn taran ac mewn gwynt,
A phrofais dy deyrngarwch brau
Wrth ddŵr Meriba gynt.
8-12Felly, O Israel, clyw
Fi’n tystio yn d’erbyn di.
Na fydded gennyt estron dduw,
Ond gwrando arnaf fi.
Myfi yw’r Arglwydd Dduw,
A’th ddygodd di o’r Aifft.
Ond Israel, cenedl gyndyn yw,
A gyrrais hi i’w thaith.
13-16O na bai Israel byth
Yn rhodio yn fy ffyrdd!
Mi ddarostyngwn i yn syth
Ei gwrthwynebwyr fyrdd.
Dôi’r gelyn yn un haig
I blygu o’m blaen yn fud,
Ond bwydwn di â mêl o’r graig.
A’r gorau oll o’r ŷd.”

Currently Selected:

Salmau 81: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in