Salmau 84:8-12
Salmau 84:8-12 SCN
Arglwydd Dduw y Lluoedd, gwrando Ar fy ngweddi i. Edrych ar ein tarian; dyro Ffafr i’n brenin ni. Gwell na blwyddyn gartref fydd Un dydd yn dy gynteddau di. Yno na chael byw Yn nhai’r drwg; cans haul a tharian Yw yr Arglwydd Dduw. Gwyn ei fyd y sawl y bo Ei hyder ynddo; dedwydd yw.