YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 1

1
Gormesu'r Israeliaid yn yr Aifft
1Dyma enwau meibion Israel a aeth i'r Aifft gyda Jacob, pob un gyda'i deulu: 2Reuben, Simeon, Lefi a Jwda, 3Issachar, Sabulon a Benjamin, 4Dan a Nafftali, Gad ac Aser. 5Yr oedd gan Jacob ddeg a thrigain o ddisgynyddion; yr oedd Joseff eisoes yn yr Aifft. 6Yna bu farw Joseff a phob un o'i frodyr a'r holl genhedlaeth honno. 7Ond yr oedd plant Israel yn ffrwythlon ac yn amlhau'n ddirfawr, ac aethant mor gryf a niferus nes bod y wlad yn llawn ohonynt.
8Yna daeth brenin newydd i deyrnasu ar yr Aifft, un nad oedd yn gwybod am Joseff. 9Dywedodd ef wrth ei bobl, “Edrychwch, y mae pobl Israel yn fwy niferus ac yn gryfach na ni. 10Rhaid inni fod yn ddoeth wrth eu trin, rhag iddynt gynyddu, a phe deuai rhyfel, iddynt ymuno â'n gelynion i ymladd yn ein herbyn, a dianc o'r wlad.” 11Felly, gosodwyd meistri gwaith i oruchwylio'r bobl ac i'w llethu â beichiau trymion. Hwy fu'n adeiladu Pithom a Rameses, dinasoedd ar gyfer ystordai Pharo. 12Ond po fwyaf y caent eu gorthrymu, mwyaf yn y byd yr oeddent yn amlhau ac yn cynyddu; a daeth yr Eifftiaid i'w hofni. 13Am hynny, gorfodwyd i'r Israeliaid weithio dan ormes, 14a gwnaeth yr Eifftiaid eu bywyd yn chwerw trwy eu gosod i lafurio'n galed â chlai a phriddfeini, a gwneud pob math o waith yn y meysydd. Yr oedd y cwbl yn cael ei wneud dan ormes.
15Yna dywedodd brenin yr Aifft wrth Siffra a Pua, dwy fydwraig yr Hebreaid, 16“Pan fyddwch yn gweini ar wragedd yr Hebreaid, sylwch ar y plentyn a enir: os mab fydd, lladdwch ef; os merch, gadewch iddi fyw.” 17Ond yr oedd y bydwragedd yn parchu Duw; ac ni wnaethant yr hyn a orchmynnodd brenin yr Aifft, ond gadawsant i'r bechgyn fyw. 18Galwodd brenin yr Aifft y bydwragedd ato a gofyn, “Pam y gwnaethoch hyn, a gadael i'r bechgyn fyw?” 19Dywedasant hwythau wrth Pharo, “Nid yw gwragedd yr Hebreaid yn debyg i wragedd yr Eifftiaid, oherwydd y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn i'r fydwraig gyrraedd.” 20Am hynny bu Duw yn dda wrth y bydwragedd; a chynyddodd y bobl a dod yn rymus iawn. 21Am fod y bydwragedd yn parchu Duw, cawsant hwy eu hunain deuluoedd. 22Yna rhoddodd Pharo orchymyn i'r holl bobl a dweud, “Taflwch i'r Neil bob mab a enir i'r Hebreaid#1:22 Felly rhai llawysgrifau. TM heb i'r Hebreaid., ond gadewch i bob merch gael byw.”

Currently Selected:

Exodus 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in