Exodus 10:21-23
Exodus 10:21-23 BCNDA
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Estyn allan dy law tua'r nefoedd, a bydd tywyllwch dros wlad yr Aifft, tywyllwch y gellir ei deimlo.” Felly estynnodd Moses ei law tua'r nefoedd, a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft am dridiau. Ni allai'r bobl weld ei gilydd, ac ni symudodd neb o'i le am dri diwrnod, ond yr oedd gan yr Israeliaid oleuni yn y lle'r oeddent yn byw.