YouVersion Logo
Search Icon

Marc 11:20-26

Marc 11:20-26 DAW

Fore trannoeth, wrth fynd heibio, gwelon nhw fod y ffigysbren wedi gwywo. Cofiodd Pedr yr hyn a ddwedodd Iesu a meddai, “Rabbi, edrych, mae'r ffigysbren roeddet ti wedi'i felltithio wedi gwywo.” Dwedodd Iesu, “Credwch fi, os oes ffydd gyda chi yn Nuw, a phe byddech chi'n dewis dweud wrth y mynydd hwn i godi a thaflu ei hunan i'r môr, fe ddigwyddai hynny. Rydw i'n dweud wrthych chi, beth bynnag a geisiwch mewn gweddi, credwch eich bod wedi'i gael, ac fe'i cewch ef. Os bydd cwyn gyda chi yn erbyn rhywun, maddeuwch iddo wrth i chi weddïo er mwyn i'ch Tad sydd yn y nef faddau eich beiau chi hefyd.”