YouVersion Logo
Search Icon

Marc 13:3-13

Marc 13:3-13 DAW

Yn hwyrach, pan oedd Iesu'n eistedd ar Fynydd yr Olewydd gyferbyn â'r deml, gofynnodd Pedr, Iago, Ioan ac Andreas yn gyfrinachol iddo, “Pryd y bydd hyn, a beth fydd i ddangos fod pethau ar fin digwydd?” Aeth Iesu ymlaen i ddweud, “Byddwch ofalus rhag i neb eich twyllo. Daw llawer yn fy enw i, gan ddweud, ‘Fi ydy ef’, ac fe dwyllir llawer. Peidiwch ag ofni pan glywch sôn am ymladd a rhyfeloedd. Mae'n rhaid i'r pethau hyn ddigwydd, ond nid dyna'r diwedd. Bydd cenedl yn ymladd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd daeargrynfâu a newyn mewn mannau. Ond dechrau poen fydd y pethau hyn. Cymerwch ofal o'ch hunain, oherwydd cewch eich llusgo i lysoedd, a'ch chwipio mewn synagogau, a'ch gosod o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd, i roi tystiolaeth o'm hachos i. Ond yn gyntaf mae'n rhaid cyhoeddi'r Newyddion Da i bawb ym mhobman. Pan ân nhw â chi i ffwrdd, peidiwch â phoeni ynglŷn â beth i'w ddweud, oherwydd bydd yr Ysbryd Glân yn siarad trwoch chi. Bydd brawd yn bradychu brawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a bydd plant yn codi yn erbyn eu rhieni ac yn eu lladd. Bydd pawb yn eich casáu o'm hachos i; ond bydd y rhai sy'n parhau'n ffyddlon hyd y diwedd yn ddiogel.