YouVersion Logo
Search Icon

Marc 13:14-23

Marc 13:14-23 DAW

“Pan welwch ‘y peth ffiaidd ofnadwy’ yn sefyll lle na ddylai fod, yna rheded pobl Jwdea i'r mynyddoedd. Peidied yr un sy ar do ei dŷ â dod i lawr i hôl dim ohono. Peidied yr un sy yn y cae â throi'n ôl i estyn am ei got. Druan o'r gwragedd sy'n disgwyl plant a'r rheini sy â babanod yn y dyddiau hynny. Gweddïwch na fydd hyn yn digwydd yn y gaeaf, oherwydd bydd gofid y dyddiau hynny yn annhebyg i unrhyw beth a fu ers dechrau'r byd hyd heddiw, ac ni fydd ei debyg fyth eto. Oni bai i'r Arglwydd fyrhau'r dyddiau hynny, ni fyddai neb ar ôl yn fyw, ond mae ef wedi'u byrhau nhw er mwyn ei bobl ddewisiedig. Felly, os bydd rhywun yn dweud wrthych chi, ‘Edrych, dyma'r Meseia’, neu, ‘Dacw fe’, peidiwch â'i gredu. Oherwydd fe ddaw sawl gau‐feseia a gau‐broffwyd, a gwneud arwyddion a rhyfeddodau mewn ymgais i gamarwain y rhai dewisiedig. Byddwch wyliadwrus, rydw i wedi dweud y cyfan wrthych chi ymlaen llaw.