YouVersion Logo
Search Icon

Marc 14

14
14. IESU YN FFARWELIO
Y Cynllwyn i Ladd Iesu (Marc 14:1-2)
1-2Mewn deuddydd roedd y Pasg a gŵyl y Bara Croyw. Roedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yn ceisio ffordd i ddal Iesu er mwyn ei ladd, ond roedden nhw'n gofalu peidio yn ystod yr ŵyl, rhag ofn i'r bobl gael eu cynhyrfu.
Yr Eneinio ym Methania (Marc 14:3-9)
3-9Pan oedd Iesu'n eistedd i fwyta yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus ym Methania, daeth gwraig i mewn â chanddi botel alabastr o beraroglau nard pur, costus. Agorodd y botel ac arllwysodd y cynnwys am ben Iesu. Roedd rhai yno yn ddig iawn, a gofynnon nhw pam fod angen gwastraffu'r peraroglau. Gallen nhw fod wedi gwerthu'r cynnwys am bris da a rhoi'r arian i'r tlodion. Roedden nhw'n gynddeiriog wrth y wraig. Dwedodd Iesu, “Gadewch lonydd iddi. Pam rydych chi'n ei phoeni a hithau wedi gwneud rhywbeth hyfryd i mi? Mae'r tlodion gyda chi bob amser, a gallwch chi eu helpu nhw pryd bynnag y mynnwch chi, ond fydda i ddim gyda chi bob amser. Gwnaeth y wraig yr hyn a allodd hi, ac eneiniodd fy nghorff ar gyfer y gladdedigaeth. Credwch fi, ble bynnag y bydd y Newyddion Da yn cael ei bregethu yn y byd, bydd sôn hefyd am yr hyn a wnaeth hi.”
Jwdas yn Cytuno i Fradychu Iesu (Marc 14:10-11)
10-11Aeth Jwdas Iscariot, un o'r Deuddeg, at y prif offeiriaid i fradychu Iesu. Roedden nhw'n llawen pan glywson nhw, ac addawson nhw roi arian iddo.
Gwledd y Pasg gyda'r Disgyblion (Marc 14:12-21)
12-21Ar ddydd cyntaf gŵyl y Bara Croyw ac oen y Pasg wedi'i ladd, gofynnodd ei ddisgyblion i Iesu, “Ble rwyt ti am i ni drefnu i fwyta gwledd y Pasg?” Dwedodd wrth ddau o'i ddisgyblion, “Ewch i'r ddinas, ac fe welwch ddyn yn cario stên o ddŵr. Dilynwch ef, a dwedwch wrth ŵr y tŷ lle'r aiff i mewn, bod yr Athro'n gofyn, ble mae'r ystafell lle mae i fwyta gwledd y Pasg gyda'i ddisgyblion. Yna cewch weld ystafell fawr wedi'i threfnu'n barod.” Cafodd y disgyblion bethau fel roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw, a pharatoeson nhw ar gyfer gwledd y Pasg. Gyda'r nos, daeth Iesu yno yng nghwmni'r Deuddeg. Pan oedden nhw wrth y bwrdd yn bwyta, dwedodd wrthyn nhw, “Credwch fi, mae un ohonoch chi, sy'n bwyta gyda fi, yn mynd i'm bradychu i.” Dyma nhw'n dechrau tristáu, a gofynnodd bob un yn ei dro iddo, “Dwyt ti ddim yn meddwl mai fi ydy e, wyt ti?” Atebodd Iesu nhw, “Un o'r Deuddeg, un sy'n gwlychu ei fara gyda mi yn y ddysgl, fe ydy'r un. Mae Mab y Dyn yn mynd i ffwrdd, fel y mae'r Ysgrythurau yn dweud, ond gwae'r dyn hwnnw sy'n mynd i'w fradychu. Byddai'n well petai hwnnw heb ei eni.”
Sefydlu Swper yr Arglwydd (Marc 14:22-26)
22-26Pan oedden nhw'n bwyta, cymerodd Iesu ddarn o fara, ac wedi'i fendithio fe'i torrodd, a'i roi iddyn nhw, gan ddweud, “Cymerwch, dyma fy nghorff.” Yna cymerodd gwpan o win, ac wedi diolch, fe'i rhoddodd iddyn nhw, ac yfodd pawb o'r cwpan. Dwedodd Iesu, “Dyma fy ngwaed i, hwn ydy gwaed y cyfamod sy'n cael ei dywallt dros lawer. Credwch fi, wna i ddim yfed eto hyd nes y bydda i yn nheyrnas Dduw.” Ar ôl iddyn nhw ganu emyn, aethon nhw allan i Fynydd yr Olewydd.
Rhagfynegi Gwadiad Pedr (Marc 14:27-31)
27-31Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Bydd pob un ohonoch chi yn colli ei ffydd ynof fi, am fod yr Ysgrythur yn dweud:
‘Caiff y bugail ei daro gennyf fi,
a bydd y defaid yn cael eu gwasgaru i bobman.’
Ar ôl i mi gyfodi af o'ch blaen chi i Galilea.” Dwedodd Pedr wrtho, “Gall bob un o'r lleill golli'i ffydd, ond wna i ddim.” Atebodd Iesu, “Cred fi, cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, fe fyddi di wedi fy ngwadu i deirgwaith.” Mynnodd Pedr ddweud yn wahanol, “Petai'n rhaid i mi farw gyda thi, wna i byth dy wadu di,” a dwedodd pob un o'r lleill yr un peth.
Y Weddi yng Ngethsemane (Marc 14:32-42)
32-42Pan ddaeth Iesu a'i ddisgyblion i ardd Gethsemane, dwedodd wrthyn nhw, “Eisteddwch yma tra bydda i yn gweddïo.” Aeth â Pedr, Iago ac Ioan gydag ef, a dechreuodd deimlo'n drist ac isel ei ysbryd. Dwedodd, “Mae fy nghalon ar dorri. Arhoswch yma a gwyliwch.” Cerddodd ymlaen ychydig, a syrthiodd ar y llawr, a gweddïodd am i'r brofedigaeth fynd heibio iddo, os oedd hynny'n bosibl. Gweddïodd, “Abba! Dad! Mae popeth yn bosibl i ti. Cymer y cwpan yma oddi wrthyf fi. Ond eto, dydy fy ewyllys i ddim yn cyfrif, dy ddymuniad di sy'n bwysig.” Daeth yn ôl a'u gweld nhw'n cysgu. Dwedodd wrth Pedr, “Simon, wyt ti'n cysgu? Fedret ti ddim cadw ar ddihun am awr? Gwyliwch a gweddïwch nad ewch chi ddim i demtasiwn. Mae eich ysbryd yn ddigon parod ond mae'r cnawd yn wan.” Aeth i ffwrdd eilwaith i weddïo, a phan ddychwelodd, gwelodd eu bod nhw'n cysgu eto, a doedden nhw ddim yn gwybod beth i'w ddweud. Daeth Iesu'r trydydd tro a dwedodd wrthyn nhw, “Ydych chi'n dal i gysgu? Dyna ddigon. Mae'r amser wedi dod ac mae Mab y Dyn ar gael ei fradychu i ddynion drwg. Codwch, gadewch i ni fynd, oherwydd mae fy mradychwr ar ei ffordd yma.”
Bradychu a Dal Iesu (Marc 14:43-50)
43-50Tra roedd Iesu'n siarad, cyrhaeddodd Jwdas, un o'r Deuddeg, gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion a'r henuriaid wedi eu hanfon nhw. Roedd y bradychwr wedi rhoi arwydd iddyn nhw, mai'r hwn y byddai'n ei gusanu fyddai'r un, ac roedd am iddyn nhw fynd ag ef allan yn ddiogel. Yn union wedi cyrraedd, aeth Jwdas at Iesu a dweud, “Rabbi,” a'i gusanu. Ar hynny, dyma nhw'n gafael ynddo a'i ddal. Tynnodd un o'r rhai oedd yn sefyll gerllaw gleddyf, a tharo gwas yr archoffeiriad gan dorri ei glust i ffwrdd. Gofynnodd Iesu iddyn nhw, “Ydych chi wedi dod i'm dal gyda chleddyfau a phastynau fel petawn i'n lleidr? Roeddwn i gyda chi bob dydd, yn dysgu yn y deml, a chydioch chi ddim ynof fi bryd hynny. Ond mae'n rhaid cyflawni'r Ysgrythurau.” Rhedodd bob un o'r disgyblion i ffwrdd gan adael Iesu yno.
Y Dyn Ifanc a redodd i ffwrdd (Marc 14:51-52)
51-52Roedd rhyw ddyn ifanc yn dilyn Iesu, ac nid oedd yn gwisgo dim ond darn o liain. Cydion nhw ynddo fe ond dihangodd drwy redeg i ffwrdd yn noeth, gan adael y lliain ar ôl.
Iesu gerbron y Sanhedrin (Marc 14:53-65)
53-65Aethon nhw â Iesu at yr archoffeiriad, i'r lle roedd y prif offeiriaid a'r henuriaid a'r ysgrifenyddion wedi casglu ynghyd. Dilynodd Pedr nhw o bell hyd at gyntedd tŷ'r archoffeiriad, ac eisteddodd yno gyda'r gweision i gynhesu wrth y tân. Roedd y prif offeiriaid a'r Sanhedrin yn ceisio tystiolaeth yn erbyn Iesu er mwyn ei roi i farwolaeth, ond chawson nhw ddim. Dwedodd rhai gelwydd yn ei erbyn ond doedden nhw ddim yn gyson yn eu tystiolaeth. Cododd eraill a dweud yn gelwyddog, “Fe glywson ni e'n dweud y byddai'n dymchwel y deml a godwyd gan ddynion, ac y byddai'n codi un arall mewn tri diwrnod, a hwnnw heb fod o waith dynion.” Yna cododd yr archoffeiriad yn y canol a holi Iesu, “Oes gennyt ti ddim i'w ddweud? Beth am y cyhuddiad sy'n cael ei ddwyn yn dy erbyn di?” Ni roddodd Iesu unrhyw ateb, a gofynnodd yr archoffeiriad iddo eto, “Ai ti ydy'r Meseia, Mab y Bendigedig?” Atebodd Iesu, “Ie, fi ydy e, a
‘chewch weld Mab y Dyn
yn eistedd ar law dde'r Gallu
ac yn dod gyda chymylau'r nef.’ ”
Gyda hyn rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, “Fe glywsoch chi ei gabledd. Beth arall sy eisiau arnon ni? Beth ydy'ch barn chi?” Roedden nhw i gyd yn gytûn ei fod yn haeddu marw. Dechreuodd rhai boeri arno, rhoi mwgwd dros ei wyneb a'i guro a dweud wrtho, “Proffwyda.” Daeth y gweision hefyd ato a'i daro â'u dwylo.
Pedr yn Gwadu Iesu (Marc 14:66-72)
66-72Roedd Pedr i lawr yn y cyntedd yn cadw'n gynnes wrth y tân. Daeth un o forwynion yr archoffeiriad ato a dweud, “Roeddet ti hefyd gyda Iesu'r Nasaread.” Gwadodd Pedr a dwedodd, “Dydw i ddim yn gwybod nac yn deall am beth rwyt ti'n sôn.” Aeth allan i'r porth, a chanodd y ceiliog. Gwelodd y forwyn ef eto, a dechreuodd ddweud wrth y rhai yn ei hymyl, “Mae hwn yn un ohonyn nhw.” Gwadodd Pedr eto. Ymhen ychydig, dyma'r rhai oedd yn sefyll yn agos ato'n dweud, “Rwyt ti'n siwr o fod yn un ohonyn nhw, oherwydd Galilead wyt ti.” Dechreuodd Pedr dyngu a rhegi, “Dydw i ddim yn nabod y dyn rydych chi'n sôn amdano.” Canodd y ceiliog yr ail waith a chofiodd Pedr am eiriau Iesu, “Cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, fe fyddi di wedi fy ngwadu i deirgwaith.” A dechreuodd wylo.

Currently Selected:

Marc 14: DAW

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in