YouVersion Logo
Search Icon

Marc 9:33-37

Marc 9:33-37 DAW

Ar ôl iddyn nhw gyrraedd Capernaum, gofynnodd Iesu beth oedden nhw'n ei drafod ar y ffordd. Roedden nhw'n gwbl ddistaw am iddyn nhw fod yn dadlau â'i gilydd pwy oedd y mwyaf yn eu plith. Eisteddodd Iesu a galwodd y deuddeg ato a dwedodd, “Pwy bynnag sy am fod y cyntaf, bydd rhaid iddo gytuno i fod yn was i bawb.” Cymerodd blentyn a'i osod yn eu canol; cofleidiodd ef a dwedodd, “Pwy bynnag sy'n derbyn plentyn fel hwn yn fy enw i, sy'n fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, mae'n derbyn yr hwn a'm hanfonodd i.”