YouVersion Logo
Search Icon

2 Corinthiaid 10

10
1A myfi Paul wyf fy hun yn atolwg i chwi, er addfwynder a hynawsedd Crist, yr hwn yn bresennol wyf wael yn eich plith, ond yn absennol ydwyf yn hy arnoch. 2Ac yr ydwyf yn dymuno na byddwyf yn bresennol yn hy â’r hyder yr wyf yn meddwl bod tuag at rai, y sydd yn ein cyfrif ni megis rhai yn rhodio yn ôl y cnawd. 3Canys er ein bod ni yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ôl y cnawd: 4(Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i’r llawr;) 5Gan fwrw dychmygion i lawr, a phob uchder a’r sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist; 6Ac yn barod gennym ddial ar bob anufudd-dod, pan gyflawner eich ufudd-dod chwi. 7Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg? Os ymddiried neb ynddo ei hun, ei fod ef yn eiddo Crist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, megis ag y mae efe yn eiddo Crist, felly ein bod ninnau hefyd yn eiddo Crist. 8Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinistr chwi, ni’m cywilyddid: 9Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau. 10Oblegid y llythyrau yn wir (meddant) sydd drymion a chryfion; eithr presenoldeb y corff sydd wan, a’r ymadrodd yn ddirmygus. 11Y cyfryw un meddylied hyn, mai y fath ydym ni ar air trwy lythyrau yn absennol, yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred yn bresennol. 12Canys nid ŷm ni yn beiddio ein cystadlu, neu ein cyffelybu ein hunain i rai sydd yn eu canmol eu hunain: eithr hwynt-hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a’u cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain, nid ydynt yn deall. 13Eithr ni fostiwn ni hyd at bethau allan o’n mesur, ond yn ôl mesur y rheol a rannodd Duw i ni, mesur i gyrhaeddyd hyd atoch chwi hefyd. 14Canys nid ydym, megis rhai heb gyrhaeddyd hyd atoch chwi, yn ymestyn allan tu hwnt i’n mesur; canys hyd atoch chwi hefyd y daethom ag efengyl Crist: 15Nid gan fostio hyd at bethau allan o’n mesur, yn llafur rhai eraill; eithr gan obeithio, pan gynyddo eich ffydd chwi, gael ynoch chwi ein mawrygu yn ôl ein rheol yn ehelaeth, 16I bregethu’r efengyl tu hwnt i chwi; ac nid i fostio yn rheol un arall am bethau parod eisoes. 17Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd. 18Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun, sydd gymeradwy; ond yr hwn y mae’r Arglwydd yn ei ganmol.

Currently Selected:

2 Corinthiaid 10: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in