Amos 1:1-2
Amos 1:1-2 BWM
Geiriau Amos, (yr hwn oedd ymysg bugeiliaid Tecoa,) y rhai a welodd efe am Israel, yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas brenin Israel, ddwy flynedd o flaen y ddaeargryn. Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; a chyfanheddau y bugeiliaid a alarant, a phen Carmel a wywa.