Daniel 2:20-22
Daniel 2:20-22 BWM
Atebodd Daniel a dywedodd, Bendigedig fyddo enw DUW o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: canys doethineb a nerth ydynt eiddo ef: Ac efe sydd yn newid amserau, a thymhorau: efe sydd yn symud brenhinoedd, ac yn gosod brenhinoedd: efe sydd yn rhoddi doethineb i’r doethion, a gwybodaeth i’r rhai a fedrant ddeall: Efe sydd yn datguddio y pethau dyfnion a chuddiedig: efe a ŵyr beth sydd yn y tywyllwch, a chydag ef y mae y goleuni yn trigo.