YouVersion Logo
Search Icon

Effesiaid 6

6
1Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn. 2Anrhydedda dy dad a’th fam, (yr hwn yw’r gorchymyn cyntaf mewn addewid;) 3Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hir-hoedlog ar y ddaear. 4A chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio; ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. 5Y gweision, ufuddhewch i’r rhai sydd arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist; 6Nid â golwg-wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, ond fel gweision Crist, yn gwneuthur ewyllys Duw o’r galon; 7Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasanaeth, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion: 8Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pob un, hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd fyddo. 9A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wybod fod eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd; ac nid oes derbyn wyneb gydag ef. 10Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef. 11Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol. 12Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd. 13Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll. 14Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder; 15A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd: 16Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall. 17Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw: 18Gan weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy bob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint; 19A throsof finnau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau yn hy, i hysbysu dirgelwch yr efengyl; 20Dros yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hy amdani, fel y perthyn imi draethu. 21Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr wyf yn ei wneuthur, Tychicus, y brawd annwyl a’r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a hysbysa i chwi bob peth: 22Yr hwn a anfonais atoch er mwyn hyn yma; fel y caech wybod ein helynt ni, ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi. 23Tangnefedd i’r brodyr, a chariad gyda ffydd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 24Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Amen.
At yr Effesiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus.

Currently Selected:

Effesiaid 6: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in