YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 31:2-5

Exodus 31:2-5 BWM

Gwêl, mi a elwais wrth ei enw ar Besaleel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda; Ac a’i llenwais ef ag ysbryd DUW, mewn doethineb, ac mewn deall, ac mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhob rhyw waith, I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, Ac mewn cyfarwyddyd, i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith.