YouVersion Logo
Search Icon

Hosea 6

6
1Deuwch, a dychwelwn at yr Arglwydd: canys efe a’n drylliodd, ac efe a’n hiachâ ni; efe a drawodd, ac efe a’n meddyginiaetha ni. 2Efe a’n bywha ni ar ôl deuddydd, a’r trydydd dydd y cyfyd ni i fyny, a byddwn fyw ger ei fron ef. 3Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr Arglwydd: ei fynediad a ddarperir fel y bore; ac efe a ddaw fel glaw atom, fel y diweddar law a’r cynnar law i’r ddaear.
4Beth a wnaf i ti, Effraim? beth a wnaf i ti, Jwda? eich mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y bore, ac fel gwlith boreol. 5Am hynny y trewais hwynt trwy y proffwydi; lleddais hwynt â geiriau fy ngenau: a’th farnedigaethau sydd fel goleuni yn myned allan. 6Canys ewyllysiais drugaredd, ac nid aberth; a gwybodaeth o Dduw, yn fwy na phoethoffrymau. 7A’r rhai hyn, fel dynion, a dorasant y cyfamod: yno y buant anffyddlon i’m herbyn. 8Dinas gweithredwyr anwiredd yw Gilead, wedi ei halogi gan waed. 9Ac fel y mae mintai o ladron yn disgwyl gŵr, felly y mae cynulleidfa yr offeiriaid yn lladd ar y ffordd yn gytûn: canys gwnânt ysgelerder. 10Gwelais yn nhŷ Israel beth erchyll: yno y mae godineb Effraim; halogwyd Israel. 11Gosododd hefyd gynhaeaf i tithau, Jwda, a mi yn dychwelyd caethiwed fy mhobl.

Currently Selected:

Hosea 6: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Hosea 6