YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 31:33-34

Jeremeia 31:33-34 BWM

Ond dyma y cyfamod a wnaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD; Myfi a roddaf fy nghyfraith o’u mewn hwynt, ac a’i hysgrifennaf hi yn eu calonnau hwynt; a mi a fyddaf iddynt hwy yn DDUW, a hwythau a fyddant yn bobl i mi. Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnabyddwch yr ARGLWYDD: oherwydd hwynt-hwy oll o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt a’m hadnabyddant, medd yr ARGLWYDD; oblegid mi a faddeuaf eu hanwiredd, a’u pechod ni chofiaf mwyach.

Video for Jeremeia 31:33-34