Marc 7
7
1Yna yr ymgasglodd ato y Phariseaid, a rhai o’r ysgrifenyddion a ddaethai o Jerwsalem. 2A phan welsant rai o’i ddisgyblion ef â dwylo cyffredin (hynny ydyw, heb olchi,) yn bwyta bwyd, hwy a argyhoeddasant. 3Canys y Phariseaid, a’r holl Iddewon, oni bydd iddynt olchi eu dwylo yn fynych, ni fwytânt; gan ddal traddodiad yr hynafiaid. 4A phan ddelont o’r farchnad, oni bydd iddynt ymolchi, ni fwytânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymerasant i’w cadw; megis golchi cwpanau, ac ystenau, ac efyddynnau, a byrddau. 5Yna y gofynnodd y Phariseaid a’r ysgrifenyddion iddo, Paham nad yw dy ddisgyblion di yn rhodio yn ôl traddodiad yr hynafiaid, ond bwyta eu bwyd â dwylo heb olchi? 6Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi, ragrithwyr, fel y mae yn ysgrifenedig, Y mae’r bobl hyn yn fy anrhydeddu i â’u gwefusau, ond eu calon sydd bell oddi wrthyf. 7Eithr ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu yn lle dysgeidiaeth, orchmynion dynion. 8Canys, gan adael heibio orchymyn Duw, yr ydych yn dal traddodiad dynion; sef golchiadau ystenau a chwpanau: a llawer eraill o’r cyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur. 9Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych yr ydych yn rhoi heibio orchymyn Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain. 10Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a’th fam: a’r hwn a felltithio dad neu fam, bydded farw’r farwolaeth. 11Ac meddwch chwithau, Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam, Corban, hynny yw, Rhodd, trwy ba beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi; difai fydd. 12Ac nid ydych mwyach yn gadael iddo wneuthur dim i’w dad neu i’w fam; 13Gan ddirymu gair Duw â’ch traddodiad eich hunain, yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau â hynny yr ydych yn eu gwneuthur.
14A chwedi galw ato yr holl dyrfa, efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch chwi oll arnaf, a deellwch. 15Nid oes dim allan o ddyn yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan ohono, y rhai hynny yw’r pethau sydd yn halogi dyn. 16Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed. 17A phan ddaeth efe i mewn i’r tŷ oddi wrth y bobl, ei ddisgyblion a ofynasant iddo am y ddameg. 18Yntau a ddywedodd wrthynt, Ydych chwithau hefyd mor ddiddeall? Oni wyddoch am bob peth oddi allan a êl i mewn i ddyn, na all hynny ei halogi ef? 19Oblegid nid yw yn myned i’w galon ef, ond i’r bol; ac yn myned allan i’r geudy, gan garthu’r holl fwydydd? 20Ac efe a ddywedodd, Yr hyn sydd yn dyfod allan o ddyn, hynny sydd yn halogi dyn. 21Canys oddi mewn, allan o galon dynion, y daw drwg feddyliau, torpriodasau, puteindra, llofruddiaeth, 22Lladradau, cybydd-dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg lygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd: 23Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dyn.
24Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon; ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynasai i neb wybod: eithr ni allai efe fod yn guddiedig. 25Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ag ysbryd aflan ynddi, sôn amdano, hi a ddaeth ac a syrthiodd wrth ei draed ef: 26(A Groeges oedd y wraig, Syroffeniciad o genedl.) A hi a atolygodd iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch. 27A’r Iesu a ddywedodd wrthi, Gad yn gyntaf i’r plant gael eu digoni: canys nid cymwys yw cymryd bara’r plant, a’i daflu i’r cenawon cŵn. 28Hithau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwir, O Arglwydd: ac eto y mae’r cenawon dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant. 29Ac efe a ddywedodd wrthi, Am y gair hwnnw dos ymaith: aeth y cythraul allan o’th ferch. 30Ac wedi iddi fyned i’w thŷ, hi a gafodd fyned o’r cythraul allan, a’i merch wedi ei bwrw ar y gwely. 31Ac efe a aeth drachefn ymaith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd fôr Galilea, trwy ganol terfynau Decapolis. 32A hwy a ddygasant ato un byddar, ag atal dywedyd arno; ac a atolygasant iddo ddodi ei law arno ef. 33Ac wedi iddo ei gymryd ef o’r neilltu allan o’r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef; ac wedi iddo boeri, efe a gyffyrddodd â’i dafod ef; 34A chan edrych tua’r nef, efe a ochneidiodd, ac a ddywedodd wrtho, Effatha, hynny yw, Ymagor. 35Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddatodwyd; ac efe a lefarodd yn eglur. 36Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb: ond po mwyaf y gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant. 37A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i’r byddariaid glywed, ac i’r mudion ddywedyd.
Currently Selected:
Marc 7: BWM
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: