YouVersion Logo
Search Icon

Diarhebion 11

11
1Cloriannau anghywir sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef. 2Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth: ond gyda’r gostyngedig y mae doethineb. 3Perffeithrwydd yr uniawn a’u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a’u difetha hwynt. 4Ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint: ond cyfiawnder a wared rhag angau. 5Cyfiawnder y perffaith a’i hyfforddia ef: ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus. 6Cyfiawnder y cyfiawn a’u gwared hwynt: ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni. 7Pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef: a gobaith y traws a gyfrgollir. 8Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a’r drygionus a ddaw yn ei le ef. 9Rhagrithiwr â’i enau a lygra ei gymydog: ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth. 10Yr holl ddinas a ymlawenha oherwydd llwyddiant y cyfiawn: a phan gyfrgoller y drygionus, y bydd gorfoledd. 11Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas: ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi. 12Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog; ond y synhwyrol a dau â sôn. 13Yr hwn a rodia yn athrodwr, a ddatguddia gyfrinach: ond y ffyddlon ei galon a gela y peth. 14Lle ni byddo cyngor, y bobl a syrthiant: ond lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch. 15Blinder mawr a gaiff y neb a fachnïo dros ddieithrddyn: ond y neb a gasao fachnïaeth, fydd ddiogel. 16Gwraig rasol a gaiff anrhydedd; a’r galluog a gânt gyfoeth. 17Gŵr trugarog sydd dda wrth ei enaid ei hun: ond y creulon a flina ei gnawd ei hun. 18Y drygionus a wna waith twyllodrus: ond i’r neb a heuo gyfiawnder, y bydd gwobr sicr. 19Fel yr arwain cyfiawnder i fywyd: felly dilyn drygioni a dywys i angau. 20Ffiaidd gan yr Arglwydd y neb sydd gyndyn eu calonnau: eithr hoff ganddo ef y rhai sydd berffaith yn eu ffyrdd. 21Er maint fyddo cymorth, y drygionus ni bydd ddieuog: ond had y cyfiawn a waredir. 22Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, yw benyw lân heb synnwyr. 23Deisyfiad y cyfiawn sydd ar ddaioni yn unig: ond gobaith y drygionus sydd ddicter. 24Rhyw un a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo: a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi. 25Yr enaid hael a fraseir: a’r neb a ddyfrhao, a ddyfrheir yntau hefyd. 26Y neb a atalio ei ŷd, y bobl a’i melltithia: ond bendith a fydd ar ben y neb a’i gwertho. 27Y neb a ddyfal geisio ddaioni, a ennill ewyllys da: ond y neb a geisio ddrwg, iddo ei hun y daw. 28Y neb a roddo ei oglyd ar ei gyfoeth, a syrth: ond y cyfiawn a flodeuant megis cangen. 29Y neb a flino ei dŷ ei hun, a berchenoga y gwynt: a’r ffôl a fydd gwas i’r synhwyrol ei galon. 30Ffrwyth y cyfiawn sydd megis pren y bywyd: a’r neb a enillo eneidiau, sydd ddoeth. 31Wele, telir i’r cyfiawn ar y ddaear: pa faint mwy i’r drygionus a’r pechadur?

Currently Selected:

Diarhebion 11: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in