YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 100

100
SALM 100
Salm o foliant.
1Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear.
2Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân.
3Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.
4Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw.
5Canys da yw yr Arglwydd: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

Currently Selected:

Y Salmau 100: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in