Y Salmau 107
107
SALM 107
1Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
2Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn;
3Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau.
4Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi:
5Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt.
6Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau;
7Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol.
8O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!
9Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.
10Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn:
11Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf.
12Am hynny yntau a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr.
13Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.
14Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau hwynt.
15O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!
16Canys efe a dorrodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn.
17Ynfydion, oblegid eu camweddau, ac oherwydd eu hanwireddau, a gystuddir.
18Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd; a daethant hyd byrth angau.
19Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.
20Anfonodd ei air, ac iachaodd hwynt, ac a’u gwaredodd o’u dinistr.
21O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!
22Aberthant hefyd aberth moliant; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.
23Y rhai a ddisgynnant mewn llongau i’r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion.
24Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd, a’i ryfeddodau yn y dyfnder.
25Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef.
26Hwy a esgynnant i’r nefoedd, disgynnant i’r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder.
27Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn: a’u holl ddoethineb a ballodd.
28Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau.
29Efe a wna yr ystorm yn dawel; a’i thonnau a ostegant.
30Yna y llawenhânt am eu gostegu; ac efe a’u dwg i’r porthladd a ddymunent.
31O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!
32A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.
33Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;
34A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo.
35Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr, a’r tir cras yn ffynhonnau dwfr.
36Ac yno y gwna i’r newynog aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu:
37Ac yr heuont feysydd, ac y plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.
38Ac efe a’u bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr, ac ni ad i’w hanifeiliaid leihau.
39Lleiheir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, drygfyd, a chyni.
40Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion, ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.
41Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.
42Y rhai uniawn a welant hyn, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn.
43Y neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau yr Arglwydd.
Currently Selected:
Y Salmau 107: BWM
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: