Y Salmau 112
112
SALM 112
1Molwch yr Arglwydd. Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr Arglwydd, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr.
2Ei had fydd gadarn ar y ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir.
3Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
4Cyfyd goleuni i’r rhai uniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe.
5Gŵr da sydd gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion.
6Yn ddiau nid ysgogir ef byth: y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth.
7Nid ofna efe rhag chwedl drwg: ei galon sydd ddi-sigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd.
8Ategwyd ei galon: nid ofna efe, hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion.
9Gwasgarodd, rhoddodd i’r tlodion; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth; ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant.
10Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia; efe a ysgyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ymaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.
Currently Selected:
Y Salmau 112: BWM
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: