Y Salmau 115
115
SALM 115
1Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd.
2Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu Duw hwynt?
3Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.
4Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion.
5Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant:
6Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant:
7Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â’u gwddf.
8Y rhai a’u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt.
9O Israel, ymddiried di yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian.
10Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian.
11Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian.
12Yr Arglwydd a’n cofiodd ni: efe a’n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron.
13Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd, fychain a mawrion.
14Yr Arglwydd a’ch chwanega chwi fwyfwy, chwychwi a’ch plant hefyd.
15Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nef a daear.
16Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt eiddo yr Arglwydd: a’r ddaear a roddes efe i feibion dynion.
17Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na’r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd.
18Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.
Currently Selected:
Y Salmau 115: BWM
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: