YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 132

132
SALM 132
Caniad y graddau.
1O Arglwydd, cofia Dafydd, a’i holl flinder;
2Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd, ac yr addunodd i rymus Dduw Jacob:
3Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely;
4Ni roddaf gwsg i’m llygaid, na hun i’m hamrantau,
5Hyd oni chaffwyf le i’r Arglwydd, preswylfod i rymus Dduw Jacob.
6Wele, clywsom amdani yn Effrata: cawsom hi ym meysydd y coed.
7Awn i’w bebyll ef; ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef.
8Cyfod, Arglwydd, i’th orffwysfa; ti ac arch dy gadernid.
9Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder; a gorfoledded dy saint.
10Er mwyn Dafydd dy was, na thro ymaith wyneb dy Eneiniog.
11Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Dafydd; ni thry efe oddi wrth hynny; o ffrwyth dy gorff y gosodaf ar dy orseddfainc.
12Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a’m tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt; eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc.
13Canys dewisodd yr Arglwydd Seion: ac a’i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun.
14Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd: yma y trigaf; canys chwenychais hi.
15Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth: diwallaf ei thlodion â bara.
16Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag iachawdwriaeth: a’i saint dan ganu a ganant.
17Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i’m Heneiniog.
18Ei elynion ef a wisgaf â chywilydd: arno yntau y blodeua ei goron.

Currently Selected:

Y Salmau 132: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in