YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 136

136
SALM 136
1Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
2Clodforwch Dduw y duwiau: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.
3Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
4Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
5Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
6Yr hwn a estynnodd y ddaear oddi ar y dyfroedd: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.
7Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:
8Yr haul, i lywodraethu y dydd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:
9Y lleuad a’r sêr, i lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
10Yr hwn a drawodd yr Aifft yn eu cyntaf-anedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;
11Ac a ddug Israel o’u mysg hwynt: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
12A llaw gref, ac â braich estynedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
13Yr hwn a rannodd y môr coch yn ddwy ran: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
14Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
15Ac a ysgytiodd Pharo a’i lu yn y môr coch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
16Ac a dywysodd ei bobl trwy yr anialwch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
17Yr hwn a drawodd frenhinoedd mawrion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
18Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
19Sehon brenin yr Amoriaid: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
20Ac Og brenin Basan: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
21Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
22Yn etifeddiaeth i Israel ei was: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
23Yr hwn yn ein hiselradd a’n cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
24Ac a’n hachubodd ni oddi wrth ein gelynion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
25Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bob cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
26Clodforwch Dduw y nefoedd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

Currently Selected:

Y Salmau 136: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in