Y Salmau 14
14
SALM 14
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni.
2Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â Duw.
3Ciliodd pawb; cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.
4Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr Arglwydd.
5Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae Duw yng nghenhedlaeth y cyfiawn.
6Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi; am fod yr Arglwydd yn obaith iddo.
7Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel.
Currently Selected:
Y Salmau 14: BWM
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: