YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 19

19
SALM 19
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef.
2Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth.
3Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt.
4Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt;
5Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o’i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa.
6O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef.
7Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth.
8Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid.
9Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd; barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd.
10Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl.
11Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was: o’u cadw y mae gwobr lawer.
12Pwy a ddeall ei gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig.
13Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer.
14Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a’m prynwr.

Currently Selected:

Y Salmau 19: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in