YouVersion Logo
Search Icon

Sechareia 2

2
1Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele ŵr, ac yn ei law linyn mesur. 2A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, I fesuro Jerwsalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hyd hi. 3Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i’w gyfarfod ef. 4Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd, Jerwsalem a gyfanheddir fel maestrefi, rhag amled dyn ac anifail o’i mewn. 5Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch, medd yr Arglwydd, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.
6Ho, ho, deuwch allan, a ffowch o wlad y gogledd, medd yr Arglwydd: canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd, medd yr Arglwydd. 7O Seion, ymachub, yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babilon. 8Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ar ôl y gogoniant y’m hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a’ch ysbeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef. 9Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt, a byddant yn ysglyfaeth i’w gweision: a chânt wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd.
10Cân a llawenycha, merch Seion: canys wele fi yn dyfod; a mi a drigaf yn dy ganol di, medd yr Arglwydd. 11A’r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr Arglwydd, ac a fyddant bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di; a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atat. 12A’r Arglwydd a etifedda Jwda, ei ran yn y tir sanctaidd, ac a ddewis Jerwsalem drachefn. 13Pob cnawd, taw yng ngŵydd yr Arglwydd: canys cyfododd o drigfa ei sancteiddrwydd.

Currently Selected:

Sechareia 2: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in