YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 20

20
SALM XX.
8au.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Duw wrandawo o’r uchelder
Ar dy weddi yn nydd cyfyngder;
Enw mawr Duw Iacob fyddo
’N babell i ti i breswylio.
2Rhodded i ti gymmhorth parod
O’i gyssegrfa sanctaidd uchod;
Nerthed ef dydi o Seion,
Lle trysorodd bob bendithion.
3Cofied ef dy boeth‐offrymau,
Bydded foddlawn i’th aberthau;
4Rhodded i ti wrth fodd dy galon,
A chyflawned dy gynghorion.
5Gorfoleddwn â’n holl galon
Yn dy iachawdwriaeth dirion;
Yn ei enw codwn faner,
Fe’n bendithia â phob cyflawnder.
Rhan II.
8au.
6Gwn yn awr gwareda’r Arglwydd
Ei Eneiniog rhag pob aflwydd;
Gwrendy ef o’r nefoedd arnaw,
Yn nerth iechyd ei ddeheulaw.
7Mewn cerbydau rhai ymffrostiant,
Ereill yn eu meirch hyderant;
Ond nyni a ro’wn ein gobaith
Byth yn Nuw ein hiachawdwriaeth.
8Hwy i lawr a gydsyrthiasant,
A chyfodi byth nis gallant;
Ninnau ar ein traed godasom,
A diysgog y safasom.
9Achub, Arglwydd, gwrandaw’n wastad,
Yn y dydd y llefom arnad;
Ti yw’n Brenin, Ti yw’n cysgod;
Byth yr ymddiriedwn ynod.
Nodiadau.
Cyfansoddodd Dafydd y salm hon, fe ymddengys, pan yr oedd efe ar fyned allan gyda’i luoedd yn erbyn rhywrai o’i elynion. Oddi wrth yr ymadrodd yn adn. 7, “Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch,” tybir mai ei hynt filwraidd yn erbyn Hadadezer, brenin Sobah, a’r Syriaid a ddaethent i’w gynnorthwyo, ydoedd, pan yr ennillodd efe oddi ar y brenin hwnw “fil o gerbydau, a saith gant o farchogion, ac ugain mil o wŷr traed;” 2 Sam viii. 4. Cyflwynai y salm i’r pencerdd, a’r cantorion, i’w chanu a’i gweddïo yn y tabernacl, am lwyddiant eu brenin a’i wŷr. Teimlai ef yn gwbl sicr o fuddugoliaeth ar ei elynion hyny, er eu holl gadernid mewn meirch a cherbydau, cyn iddo gychwyn allan yn eu herbyn, gan mor ddiysgog oedd ei ymddiried yn nawdd a chymmhorth ei Dduw.
Yr oedd rhyfeloedd Dafydd, gan mwyaf beth bynag, yn “rhyfeloedd yr Arglwydd.” Ymosodai y Cenhedloedd eilunaddolgar o amgylch ar Israel, fel cenedl o bobl oedd yn eu canol yn gwrthod ac yn dirmygu eu duwiau hwy fel eilunod meirwon a mudion; ac yn addoli un Duw anweledig, gan broffesu eu hunain yn bobl etholedig yr unig wir Dduw hwnw. Yr oedd rhyfeloedd y Cenhedloedd hyny felly yn rhyfeloedd yn erbyn Iehofah ei hun. Yr un modd yn gwbl yr oedd ymosodiadau creulawn ymherodraeth Rhufain baganaidd ar y Cristionogion yn y canrifau cyntaf. Gwreiddyn yr holl erledigaethau ofnadwy hyny oedd eu gwrthodiad hwy i gydnabod ac addoli ei duwiau hi. Nid âg arfau milwriaeth Dafydd yr oeddynt hwy i ymladd a gorchfygu, ond trwy waed yr Oen, a gair eu tystiolaeth hwy.

Currently Selected:

Salmau 20: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in