YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 26

26
SALM XXVI.
M. S.
Salm Dafydd.
1Barn fi, O Dduw! hyn yw fy nghais,
Can’s rhodiais mewn perffeithrwydd;
Ni lithia’m troed, mi roddais gred,
Fy ’mddiried yn yr Arglwydd.
2Hola, a chwilia’r galon hon,
Hyd ei dirgelion dyfnaf;
3Ar dy drugaredd, Arglwydd mâd,
Yn wastad yr edrychaf.
Yn dy wirionedd, o iawn fryd,
Yn wir o hyd y rhodiaf;
4A chyda dynion gweigion byd,
Myfi ni chydeisteddaf.
5Caseais dyrfa ’r anwir ffol
Oddi wrth ’r annuwiol ciliaf;
6Golchaf fy nwylaw ’n lân, fy Iôr,
A’th allor a gylchynaf.
7I ddadgan mewn cyhoeddus iaith
Dy ryfedd waith, a’th foliant;
8Yn hoffus drigfa ’th dŷ, O Dduw!
Preswylfan wiw d’ogoniant.
Rhan II.
M. S.
9Na chasgl f’enaid gyda phlaid
Y pechaduriaid euog;
Na’m bywyd gwerthfawr chwaith ynghyd
A’r dynion gwaedlyd halog.
10Y rhai mae ’u dwylaw, foreu a nawn,
Yn llawn ysgelerderau;
A’r un modd eu deheulaw hwy
Yn llawn o lwgr‐wobrau.
11Ond mi a rodiaf gyda phwyll,
Fy nghalon ddidwyll, Arglwydd
O! gwared fi, a thrugarhâ,
I’m cynnal â’th radlonrwydd.
12Fy nhroed sy’n sefyll ar yr iawn,
Ar hyd ffordd uniawn rhodiaf;
Yn nghynnulleidfa’r bobl yn rhwydd,
O Arglwydd! y’th fendithiaf.
Nodiadau.
Yma, fel mewn amryw o’i salmau, cyflwyna Dafydd ei hun a’i achos i Dduw, i’w chwilio, i’w brofi, a’i farnu; a hyny mewn hyder yn niniweidrwydd a didwylledd egwyddorion a bwriadau ei galon. Yr oedd dynion — Saul, ac ereill — yn ei gamgyhuddo a’i gamfarnu, ond yr oedd ei gydwybod ei hun yn ei ryddhau oddi wrth yr hyn a roddent hwy yn ei erbyn; ac felly, yr oedd ganddo hyder ar Dduw, ac i roddi ei hunan i fyny i’w farn ef ar ei fater. Yna cawn ef yn proffesu ei adgasrwydd at bechod a drygioni, ac at y dynion oedd yn caru ac yn gwneuthur pechod, na fynai rodio yn eu ffyrdd, ac eistedd yn eu cymdeithas. Dengys, o’r tu arall, yn mha bethau yr ymhyfrydai ynddynt; sef, allor, cyssegr, gwasanaeth, a phobl Dduw. Y mae gwir nodwedd moesol dyn i’w adnabod oddi wrth gymmeriad moesol y rhai a wna efe yn gyfeillion iddo, y lleoedd yr arfera efe gyrchu iddynt, a’r gwaith yr ymhyfryda ynddo. Gweddïa y Salmydd ar iddo gael ei waredu rhag i’w enaid byth gael ei gyfrif a’i gasglu gyda phechaduriaid a gelynion Duw. Yr oedd y diweddar Williams, o’r Wern, ar ei daith mewn lle dyeithr yn Lloegr un tro, lle y galwai am luniaeth mewn gwestty. Yr oedd yno liaws o’r annuwiolion a ddisgrifia y Salmydd yma, yn bwyta anwiredd a chableddau fel y bwytaent fara. Wrth adrodd am yr amgylchiad i nifer o gyfeillion wedi hyny, dywedai:— “Yr wyf yn meddwl i mi weddïo yr adeg hono yn fwy difrifol a thaer nag y gweddïaswn erioed weddi y Salmydd, ‘Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid.’ Meddyliwn pa mor ofnadwy fuasai i mi fyw byth gyda dynion felly, y rhai yr oedd eu cymdeithas am bum munyd yn ymddangos fel yn gyhyd a blwyddyn o uffern; ac yr wyf yn meddwl i mi deimlo sicrwydd ar y pryd na chawn fy mwrw yn y byd a ddaw i fod byth yn gydgyfranog â dynion yr oedd eu cymdeithas mor annioddefol boenus i mi am ychydig funydau yn y byd hwn.”
Yn ddiweddaf, adduneda y Salmydd y byddai iddo, yn nghymmhorth ei Dduw, barhau i rodio fel yr oedd wedi gwneuthur hyd yn hyn, “yn ei berffeithrwydd,” i wasanaethu a chlodfori yr Arglwydd.

Currently Selected:

Salmau 26: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in