YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 29:11

Salmau 29:11 SC1875

Yr Arglwydd wisg ei bobl â nerth, Yn brydferth o’i drugaredd; Efe a’u bendithia hwy bob rhai Yn wastad â’i dangnefedd. NODIADAU. “Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwy a welant Dduw.” Felly yr oedd y Salmydd: gwelai ef law Duw yn mhob peth, a pob digwyddiad. Y mae yn debygol, ac yn fwy na thebygol, mai ar ystorm gref o fellt a tharanau, a gwlaw, y cyfansoddodd efe y gân fywiog ac effeithiol hon. Tra yr oedd ereill o’i amgylch yn crynu gan fraw, fe ddichon, eisteddai ef mewn tawelwch i gyfansoddi mawl‐gân i’r hwn oedd ar y pryd “yn gyru’r mellt i ehedeg, yn hollti’r cedrwydd, ac â’i daranau yn peri i’r mynyddoedd grynu.” Geilw ar y meibion cedyrn, a dybient yn uchel am eu gallu a’u hawdurdod eu hunain, i gydnabod mawredd anfeidrol Iehofah fel llywodraethwr elfenau natur; a dysgu, yn wyneb yr amlygiad o’r mawredd hwnw yn y mellt a’r taranau, pa mor wan a dinerth oedd eu mawredd a’u gallu eu hunain. Ymgysura yn yr ystyriaeth fod yr hwn a lefarai gyda’r fath fawrhydi gogoneddus yn y taranau a’r tymmhestloedd, yn eistedd yn Frenin yn dragywydd ar ei orseddfa yn y nefoedd fry, yn preswylio hefyd ger llaw, ac megys yn gymmydog agos iawn ato, yn ei deml, neu y babell a wnaethai efe iddo; ac yno bob amser, ac yn barod ar bob amgylchiad, i nerthu a bendithio ei bobl. Os oedd y dymmhestl yn gref ac ofnadwy oddi allan, yr oedd hi yn dawelwch a thangnefedd oddi mewn, yn y babell.

Video for Salmau 29:11