YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 35:28

Salmau 35:28 SC1875

Fy nhafod innau, O fy Nêr! Fawl dy gyfiawnder beunydd; Y dydd na’r nos, myfi ni thau, A dy fawrhau ’n dragywydd. NODIADAU. Y mae yr ymadroddion trymion a ddefnyddia y Salmydd wrth weddïo yn erbyn ei elynion yn y salm hon yn neillduol, ac mewn amryw o salmau ereill hefyd, wedi, ac yn peri i lawer betruso pa fodd y gallent fod yn weddus i ddyn da eu defnyddio a’u harfer. Ceisia rhai esmwythau gerwindeb yr ymadroddion â’r dybiaeth mai prophwydo am aflwydd a dinystr ei elynion a wna y Salmydd, yn hytrach na dymuno a gweddïo am i’r fath drychineb eu goddiweddyd; ond y mae yr holl ieithwedd yn ymddangos yn anghymmodlawn â’r dybiaeth hono. Nid oes un dyn ystyriol, ni a dybiwn, a haera nad yw y fath ddynion ag a ddisgrifia y Salmydd fel ei elynion yn cyfiawn haeddu yr holl gospau y gweddïa efe am y gweinyddiad o honynt arnynt: yr un pryd, rhaid addef yr ymddengys y cyfryw ddymuniadau yn anghydweddol âg ansawdd meddwl dyn duwiolfrydig fel Dafydd. Modd bynag, y mae y pethau a ganlyn i’w hystyried yn eu perthynas â’r mater:— Yn gyntaf, Mai dyn oedd Dafydd, yn gorfod dioddef fel ninnau. Yn ail, Ei fod yn gwbl ddiniwed o’r cyhuddiadau a ddygai ei elynion maleisus yn ei erbyn — ac y gwyddent hwythau hyny. Yn drydydd, Yr oedd efe wedi talu da (fel y dywed ef) a dangos tynerwch a charedigrwydd, tuag at rai, o honynt, beth bynag, ag oeddynt yn arfer pob ystryw a dichell i hela ei einioes i’w ddyfetha. Yn bedwerydd, Nid oedd ganddo un llys daearol i appelio ato am farn gyfiawn ar ei achos; canys y gwŷr yr oedd yr awdurdod wladol yn eu dwylaw, yn benaf oll, oedd ei erlidwyr. Felly nid oedd ganddo ef ond cyflwyno ei fater i law Barnydd yr holl ddaear, a gofyn iddo ef ei hun weinyddu y gosp a haeddai eu gweithredoedd ar y cyfryw droseddwyr. Yn bummed, Dylid cofio yr oruchwyliaeth yr oedd efe yn byw o dani. Yn chweched, Bod y dynion sanctaidd a lefarasant ac a ysgrifenasant eiriau yr Ysgrythyr Lân mor agored i gyfeiliorni, camsynio, a chamddywedyd â’u gwefusau a dynion da ereill, pan na byddent yn llefaru neu yn gweithredu o dan ddylanwad ac arweiniad goruwchnaturiol yr ysbrydoliaeth ddwyfol. Rhydd yr ysgrythyr ei hun i ni lawer o enghreifftiau o hyn: megys Moses unwaith, a Job a’i gyfeillion. Cydnabydda Dafydd droion ddarfod iddo lefaru yn ei ffrwst; ac fel dyn da, yn ei ffrwst o herwydd ei elynion maleisus, Saul, a Doeg, a’r Ziphiaid, y mae yn debygol, y llefara efe amryw o ymadroddion y salm hon, a salmau ereill. Bob amser pan y mae efe yn llefaru fel prophwyd am y Messïah, yr ysbrydoliaeth ddwyfol sydd yn llefaru ynddo, a’i hymadroddion hi sydd ar ei dafod ef; ond nid ymddengys ei fod ef dan yr arweiniad goruwchnaturiol hwnw bob amser, pan y byddai yn llefaru ar ei achos ei hun. Y mae y dwyfol a’r dynol yn cydredeg drwy’r ysgrythyr, a da yw i ni ei bod felly. Fodd bynag, y mae holl addysg y salm yn addysg dda — am Dduw, ei farnau cyfiawn, ei oruwchlywodraeth ar y byd a’i holl amgylchiadau, a’i ofal am ei bobl; a therfyna, fel y terfyna llawer iawn o’r salmau, mewn penderfyniad newydd ar ran y Salmydd i fawrhau a chlodfori yr Arglwydd yn wastadol er ei holl drallodau a’i brofedigaethau. A pheth mawr iawn ydyw i ddyn allu cadw ysbryd addoli a moliannu yr Arglwydd yn fyw yn ei enaid pan mewn helbulon a phrofedigaethau, fel yr oedd Dafydd ynddynt.

Video for Salmau 35:28