YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 38:22

Salmau 38:22 SC1875

I’m gwared, brysia ’n union. NODIADAU. Gelwir hon yn Salm Dafydd — er coffa . Un o’i saith salm edifeiriol ydyw, lle y mae efe yn coffa, yn laf, Ei anwireddau a’i bechodau, gyda galar a hunan‐ffieiddiad ger bron Duw o’u herwydd. Yn 2il, Ei drallodau blinion o herwydd ei bechodau. Ymddengys ei fod dan gystudd trwm ar y pryd, neu wedi bod yn ddiweddar felly. 3ydd, Coffa am falais, a dygasedd anghymmodlawn ei elynion tuag ato: y rhai a osodent faglau iddo, a draethent anwireddau am dano, ac a ddychymygent ddichellion yn ei erbyn beunydd. 4ydd, Anffyddlondeb ac angharedigrwydd ei gyfeillion a’i berthynasau; y rhai, fe ymddengys, oeddynt ar yr adeg hono yn troi eu cefnau arno yn ei drallod. 5ed, Coffâ ei obaith a’i hyder yn ei Dduw, fel ei unig gyfaill dianwadal a ffyddlawn, pan wedi ei adael gan bawb; a therfyna mewn gweddi am ei gymmhorth iddo yn ei drallod. Hon yw y salm fwyaf cwynfanus drwyddi oll o holl salmau Dafydd. Nid oes ynddi nemawr i ddim ond cwynfanau trymion a gofidus. At ba drallod yn neillduol yn ei fywyd y cyfeirir yma, nis gellir penderfynu.

Video for Salmau 38:22