YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 40

40
SALM XL.
7.6.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Disgwyliais am yr Arglwydd,
Ac ymostyngodd ef;
Ystyriodd wrth fy nhrallod,
Gwrandawodd ar fy llef;
2Cyfododd fi i fyny
O’r pydew erchyll mawr,
O’r tomlyd bridd lle ’r oeddwn
Yn suddo ’n ddwfn i lawr.
Fe rodd fy nhraed i sefyll
Ar gadarn graig ddigryn,
Gan hwylio fy ngherddediad —
Pwy ond efe wnai hyn?
3Cân newydd gyda hyny
Ro’es yn fy ngenau, llawn
O fawl a diolch iddo
Am ei ryfeddol ddawn.
Llaweroedd a gânt weled
Y waredigaeth hon,
A throant at yr Arglwydd,
Ac ofnant ger ei fron;
Hwy ymddiriedant ynddo,
Ac unant yn y gân,
I roi clodforedd hyfryd
Ar g’oedd i’w enw glân.
4Gwyn fyd y gŵr y byddo
Duw iddo ’n gymmhorth gref;
At feilchion a chelwyddwyr,
Nid ä, ni ŵyra ef;
Yn llwybrau gostyngeiddrwydd
Y rhodia ef yn rhydd —
Y Duw gobeithiodd ynddo
Yn darian iddo fydd.
5Lliosog iawn, O Arglwydd
Ein Duw! y gwnaethost ti,
Dy ryfeddodau mawrion
Erioed tuag atom ni;
Nis gellir byth eu cyfrif
Yn drefnus — maent yn stôr;
Yn amlach eu rhifedi
Na thywod mân y môr!
Rhan II.
8.7.
6Ebyrth ac offrymau ’r allor
Ni chyflawnant d’wyllys di;
Er sylweddu y cysgodau
Ti gymmhwysaist gorph i mi.
Offrwm tanllyd a phechaberth,
Ni ofynaist: nid oes nerth
Ynddynt i ddileu pechodau —
Annigonol yw eu gwerth.
7Yna d’wedais, Wele, ’r ydwyf
Fi yn dyfod — Wele fi;
Ysgrifenwyd felly am danaf,
Yn rhol llyfr dy arfaeth di.
8Da yw genyf wneuthur d’wyllys,
O fy Nuw! a’th gyfraith sydd
Anwyl genyf — mae’n cartrefu
Yn fy nghalon nos a dydd.
9Dy gyfiawnder a bregethais
Yn y dyrfa aml ei rhi;
Nid atteliais fy ngwefusau,
Arglwydd, fel y gwyddost ti.
10Dawn dy ras a’th iachawdwriaeth,
A’th ffyddlondeb ar bob awr;
Nid atteliais i eu traethu
Yn y gynnulleidfa fawr.
Rhan III.
8.7.
11Dyro im’, nac attal rhagof,
Arglwydd, dosturiaethau ’th ras;
Dy drugaredd a’th wirionedd
Byth a’m cadwont i, dy was.
12Drygau mawrion annifeiriol
A’m cylchynant o bob tu;
Fy mhechodau a’m daliasant
Fel na allwn edrych fry.
Canys amlach yw fy meiau
Nac yw gwallt fy mhen o rif,
Ac am hyny palla ’m calon —
Soddi ’r ydwyf yn y llif.
13Rhynged bodd it’ fy ngwaredu,
Arglwydd, â’th alluog fraich;
Ynte derfydd byth am danaf,
Dan annhraethol bwys fy maich.
14Cydg’wilyddier a gw’radwydder
Hwy a geisiant f’ einioes gu;
Gyrer yn eu hol dan warthrudd
Rhai ’wyllysiant ddrwg i mi.
15Anrhaith fyddo ’n wobr iddynt
Am eu dirmyg a’u trahâ,
Y rhai dd’wedant mewn dygasedd,
Beunydd wrthyf fi, Ha! ha!
16Llawenhaed ac ymhyfryded
Y rhai oll a geisiant Dduw:
Y rhai gâr ei iachawdwriaeth,
Oll, mawrhânt ei enw gwiw.
17Tlawd a gwael, anghenus, truan,
Arglwydd, ydwyf — gwyddost ti;
Yn dy dosturiaethau grasol
Meddwl, cofia am danaf fi.
Nodiadau.
Achlysur cyfansoddiad y salm hon oedd gwaredigaeth nodedig a gafodd Dafydd o ryw drallod a pherygl mawr iawn, yr hwn y disgrifia efe ei gyflwr ar y pryd, fel un wedi suddo mewn pydew erchyll, a glynu mewn pridd tomlyd yn y pydew hwnw. Nis gellir penderfynu pa un o drallodion mawrion ei fywyd a olygir yn neillduol yn y salm. Ymddengys oddi wrth ei ymadroddion, fod ei waredigaeth o’r cyfyngder hwnw yn un mor nodedig ag y buasai llawer o sôn am dani, ac yn gyfryw ag y buasai raid i ddynion weled a chydnabod llaw yr Arglwydd ynddi; ac yr effeithiai i beri i lawer o honynt ofni, a throi at yr Arglwydd. Wedi dadgan ei deimlad diolchgar am y waredigaeth hono, ä y Salmydd yn mlaen, yn ddiarwybod iddo ei hun, fe ddichon, i lefaru am “ddioddefaint ac aberth Crist, a’r gogoniant ar ol hyny.” Nid yw yr ymadroddion, o adn. 6 hyd adn. 10, yn briodol mewn un modd i Dafydd, nac i neb arall — ond Crist yn unig; ac yn ei enau ef y gesyd yr apostol y geiriau, wrth eu coffhau yn Heb. x. 5, 6, 7. O adn. 10 hyd ddiwedd y salm, llefara Dafydd am dano ei hun; lle y cydnabydda efe amledd ac ysgelerder ei bechodau, gan weddïo am gael ei waredu oddi wrthynt hwy, ac oddi wrth ei holl elynion. Yr oedd ganddo nerth a hyder i weddïo am faddeuant o’i bechodau, er mor aml ac ysgeler oeddynt, oddi wrth y dadguddiad yr oedd newydd ei gael o’r aberth mawr a hollddigonol dros bechod, oedd wedi ei drefnu gan Dduw, ac i gael ei roddi yn nghyflawnder yr amser ordeiniedig ganddo.

Currently Selected:

Salmau 40: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in