YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 43:5

Salmau 43:5 SC1875

Pa’m y’th ddarostyngir, f’ enaid? Pa’m terfysgi dan fy mron? Yn dy Dduw gobeithia etto, Fe ä heibio ’r dymmestl hon; Ti gei etto ei foliannu, Mewn llawenydd, ac â chân, Am yr iachawdwriaeth hyfryd, Dardd o wedd ei wyneb glân. NODIADAU. Parhâd o’r salm flaenorol ydyw hon. Y mae yr un teimlad hiraethus a galarus, yr un ymdrech rhwng ofnau a gobeithion, yn cael eu gosod allan, ac yn yr un cyffelyb ymadroddion, yn y ddwy. Ei ffydd a’i obaith sydd yn buddugoliaethu ar ei ofnau a’i ammheuon yn niwedd hon, fel yn niwedd hono. Addawa iddo ei hun ymwared o’i drallod, adferiad o’i alltudiaeth, ac y byddai iddo drachefn gael mwynhau yr hyn a ddymunai uwch law pob peth arall; sef, myned at allor ei Dduw, a’i fwynhau ef yn ordinhadau ei dŷ.

Video for Salmau 43:5