YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 47

47
SALM XLVII.
8.7.4.
I’r Pencerdd, Salm i feibion Corah.
1Curwch ddwylaw, bobloedd daear!
Llafar genwch oll i Dduw;
Cenwch iddo â llef gorfoledd,
2Uchel ac ofnadwy yw:
Brenin cyfiawn, & c.,
Yr holl ddaear yw efe.
3Ef a ddwg y bobl danom,
A’r cenhedloedd dan ein traed,
4Dethol ef i’n etifeddiaeth,
’R etifeddiaeth oreu gaed:
Ardderchawgrwydd, & c.,
Iacob, ’r hwn a hoffodd ef.
5Duw â llawen floedd ddyrchafodd,
Gyda sain yr udgorn cry’,
6Cenwch fawl, i’r Arglwydd — cenwch,
Nes dadseinio ’r nefoedd fry:
O! datgenwch, & c.,
Glod y Brenin mawr ei ras.
7Canys Brenin yr holl ddaear
Ydyw Duw, moliennwch ef
Yn ddeallus, chwi dylwythau
Meibion dynion îs y nef:
8Ar holl bobloedd, & c.,
Daear y teyrnasa Duw.
Eistedd mae ein Duw ar orsedd
Ei sancteiddrwydd yn y nef
Mewn gogoniant; ac oddi yno
Uniawn farn a ddyry ef:
Ofned, cryned, & c.,
Nef a daear ger ei fron.
9Pendefigion pobl Duw Abr’am
Ymgasglasant oll ynghyd,
Canys eiddo ef tarianau
’R ddaear a’i gororau i gyd:
Mewn gogoniant, & c.,
Dirfawr y dyrchafwyd ef.
Nodiadau.
“Cynghori y cenhedloedd i groesawu teyrnas Crist yn llawen” ydyw y cynnwysiad a ddodir o flaen y salm hon. Ac felly yn wir y mae y salm yn gwneyd. Geilw ar yr holl bobl i lawenhau a chlodfori Duw fel Brenin mawr yr holl ddaear, a hyny drachefn a thrachefn; ac ar had Iacob, y genedl etholedig, mewn modd neillduol, ar gyfrif ffafrau arbenig Duw iddi, yn darostwng y cenhedloedd dan ei hawdurdod, yn rhoddi Gwlad Canaan yn etifeddiaeth iddi, ac yn benaf oll, yn dyfod i breswylio ei hunan yn ei chanol, at yr hyn y cyfeirir yn adn. 5 — megys y daeth yn gyhoeddus yn nghanol sain cân a gorfoledd y bobl pan ddygid yr arch i’r babell ar Fynydd Seion.
Sŵn addoli sydd yn y salm — a dim arall: llais un yn llawn o awydd ac ysbryd addoli yn galw ar yr holl bobl i ymuno âg ef yn y gwaith, a hyny oddi ar yr olwg a gai efe ar fawredd a gogoniant Duw fel Brenin mawr, a Barnydd cyfiawn yr holl ddaear, a’i anfeidrol raslonrwydd i’w bobl.

Currently Selected:

Salmau 47: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in