YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 52:9

Salmau 52:9 SC1875

Clodforaf byth dy enw pur, Am i ti wneuthur hyny; Disgwyliaf wrthyt, a da yw ’r fraint, Ger bron dy saint wy’n garu. NODIADAU. Darllener 1 Sam xxii., a gwelir hanes ffalsder a chreulondeb y Doeg a felldithir, ac y prophwydir ei aflwydd a’i ddinystr yn y salm hon. Nid gweddïo ar Dduw am iddo gofio a barnu ei elyn hwn y mae y Salmydd yma; ond prophwydo — rhagfynegu ei gwymp sicr, dan farn amlwg Duw. Ymddengys wrth yr ymadrodd cyntaf yn y salm — “Pa ham yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn?” fod Doeg, wedi iddo, ar orchymyn Saul, ladd pymtheg a phedwar ugain o offeiriaid yr Arglwydd yn Nob, am ddim oll ond am ddarfod iddynt ddangos caredigrwydd i Dafydd, yn ymffrostio llawer yn y weithred greulawn a bwystfilaidd hono. Ni raid wrth brophwyd i ragfynegu dinystr dyn o’r nodweddiad yma. Er holl falais, dichellion, a chynllwynion ei elynion yn ei erbyn i’w ddyfetha, traetha y Salmydd ei hyder y byddai i Dduw ei ddiogelu, ei waredu, a’i adferu yn y diwedd, fel y caffai ei addoli a’i foliannu yn ei dŷ, wedi i’r rhai oll oedd yn ceisio ei einioes gwympo, a darfod am danynt byth.

Video for Salmau 52:9