YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 52

52
SALM LII.
M. S.
I’r Pencerdd, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a mynegu i Saul, a dywedyd wrtho, Daeth Dafydd i dŷ Ahimelech.
1Pa’m yr ymffrosti di, O Doeg!
O hyd mewn coeg ddrygioni?
Trugaredd Duw sydd yn parhau —
Cei dithau weled hyny.
2Dych’mygu mae dy dafod gau,
I draethu geiriau ’sgeler;
Fel ellyn llym ei fin, heb bwyll,
Fe draetha dwyll a ffalsder.
3Twyll a drygioni hoffaist ti
’N fwy na daioni syber;
A thraethu celwydd dybryd du
Yn fwy na thraethu iawnder.
4Pob geiriau distryw, gwae, a gŵg,
O dafod drwg wnei garu:—
5Duw a’th ddistrywia di ryw ddydd
Am byth o herwydd hyny.
Fe ’th gipia ymaith yn ei lid
O’th babell glyd, ceir gweled;
Fe’th lwyr ddiwreiddia o dir y byw,
Hyn fydd dy ddistryw caled.
6Y cyfiawn, gweled hyn a gânt,
Ac ofni wnant o’th herwydd;
A chwarddant hefyd am dy ben
Pan welont ddyben d’ aflwydd.
7Wel, dyma’r gŵr ni osododd Dduw
’N gadernid byw i’w hyder;
Ond pwyso ar ei olud wnai,
A charu ’i fai ysgeler.
8Myfi fel olewydden fyw,
Yn nhŷ fy Nuw ymwreiddiaf;
Yn ei drugaredd fawr ddilyth
Hyd byth yr ymddiriedaf.
9Clodforaf byth dy enw pur,
Am i ti wneuthur hyny;
Disgwyliaf wrthyt, a da yw ’r fraint,
Ger bron dy saint wy’n garu.
Nodiadau.
Darllener 1 Sam xxii., a gwelir hanes ffalsder a chreulondeb y Doeg a felldithir, ac y prophwydir ei aflwydd a’i ddinystr yn y salm hon. Nid gweddïo ar Dduw am iddo gofio a barnu ei elyn hwn y mae y Salmydd yma; ond prophwydo — rhagfynegu ei gwymp sicr, dan farn amlwg Duw. Ymddengys wrth yr ymadrodd cyntaf yn y salm — “Pa ham yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn?” fod Doeg, wedi iddo, ar orchymyn Saul, ladd pymtheg a phedwar ugain o offeiriaid yr Arglwydd yn Nob, am ddim oll ond am ddarfod iddynt ddangos caredigrwydd i Dafydd, yn ymffrostio llawer yn y weithred greulawn a bwystfilaidd hono. Ni raid wrth brophwyd i ragfynegu dinystr dyn o’r nodweddiad yma.
Er holl falais, dichellion, a chynllwynion ei elynion yn ei erbyn i’w ddyfetha, traetha y Salmydd ei hyder y byddai i Dduw ei ddiogelu, ei waredu, a’i adferu yn y diwedd, fel y caffai ei addoli a’i foliannu yn ei dŷ, wedi i’r rhai oll oedd yn ceisio ei einioes gwympo, a darfod am danynt byth.

Currently Selected:

Salmau 52: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in