Salmau 58:1-2
Salmau 58:1-2 SC1875
Ai cyfiawnder yn ddiau Draethwch chwi, gynghorwyr gau? Ai uniondeb fernwch chwi, Feibion dynion uchel fri? Anwir waith yn hytrach sydd Yn eich calonau nos a dydd; Trawsder mawr eich dwylaw câs Bwyswch hwyr a boreu glas. M. H.