YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 58:11

Salmau 58:11 SC1875

Fel d’wedo dyn, “Diau fod ffrwyth I’r da — a Duw i dalu ’r pwyth.” NODIADAU. Troi yn chwerwlym ar ei gyhuddwyr anghyfiawn, sef cynghorwyr gwenieithus Saul, y mae Dafydd yn nechreu y salm hon. Wedi rhoddi disgrifiad o’u drygedd, eu malais, a’u creulondeb, cyhoedda y dinystr llwyr a fyddai yn sicr o’u goddiweddyd. Pe y cesglid yr holl hanesion am y barnau amlwg a ddisgynasant erioed ar lywodraethwyr gorthrymus, a barnwyr traws ac anghyfiawn, gwnaent swm mawr o gyfrolau. Y mae taranau bygythion Duw yn erbyn y rhai hyn i’w clywed yn rhuo drwy yr holl Ysgrythyrau — yn fwy felly, gyda golwg ar farnau tymmorol, nag yn erbyn un dosbarth arall o droseddwyr. Gweddïa y Salmydd yma am i farnedigaeth amlwg felly ddal ei erlidwyr trawsion ef, fel y gwelai ac yr ofnai dynion ereill, ac y dywedent, “Diau fod ffrwyth i’r cyfiawn: diau fod Duw a farna ar y ddaear.” Ar yr ymadrodd, “Cyn i’ch crochanau glywed y mieri” (adn. 9), methais a chael un eglurhâd a roddai i mi ronyn o foddlonrwydd gan un esboniwr, ac nid oes genyf yr un fy hun i’w gynnyg.

Video for Salmau 58:11

Free Reading Plans and Devotionals related to Salmau 58:11