YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 66:20

Salmau 66:20 SC1875

Bendigedig fyddo ’r Arglwydd Am na throdd fy ngweddi draw, Na ’i drugaredd ef oddi wrthyf Finnau chwaith — hi ddaeth o’i law. NODIADAU. Gan nad ydyw enw Dafydd o flaen y salm hon, haerai amryw esbonwyr nad efe a’i cyfansoddodd; ond ni wyddent yn y byd i bwy i’w phriodoli. Ond os nad yw enw Dafydd i’w weled wrthi, y mae llais Dafydd, dybiwn i, i’w glywed yn eglur ynddi. Y mae y geiriau yn adn. 15 — “Offrymaf i ti boeth‐offrymau breision, ynghyd âg arogldarth hyrddod, aberthaf ychain a bychod” — yn ddigon wrthynt eu hunain, dybygaf, i brofi pwy oedd tad y salm. Offrymau ac aberthau brenhinol a olygir yn amlwg. Ni soniai dyn cyffredin am offrymu aberthau mor gostus. Salm briodol iawn i’r amser y teimlodd Dafydd ei orsedd wedi ei llawn sefydlu dano ar ol uniad y llwythau yn ei frenhiniaeth, a darostyngiad y cenhedloedd gelynol o amgylch ydyw. Wedi galw ar yr holl ddaear — holl wlad Israel yn neillduol a olygir yma yn ddiau — i foliannu yr Arglwydd, a gosod geiriau yn ngenau y bobl i’w glodfori ef, yn yr olwg ar ei fawredd anfeidrol ynddo ei hun, a mawredd ei weithredoedd tuag at feibion dynion yn gyffredinol, a’i bobl etholedig yn neillduol, adolyga y Salmydd y cyflwr isel, gwasgedig, a thlawd y buasai y genedl ynddo dan orthrymder eu gelynion yn niwedd teyrnasiad Saul, ac ar ol ei farwolaeth ef, hyd nes y dyrchafwyd hwy, drwy ffafr Duw iddynt yn muddugoliaethau Dafydd. Am y ffafr ddwyfol hon y geilw efe mor wresog arnynt i foliannu yr Arglwydd, ac yr adduneda i wneyd hyny mewn caniadau a thrwy boeth‐offrymau breision a chostus. Pe byddem yn fwy diolchgar am y trugareddau a’r bendithion a dderbyniasom, caem fwy o honynt i’w derbyn a’u mwynhau. Nid oes un ymddygiad mwy, nac mor effeithiol, i attal cymmwynasgarwch yn mhlith dynion ag anniolchgarwch o du derbynydd cymmwynas.

Video for Salmau 66:20