YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 66

66
SALM LXVI.
7.4.
I’r Pencerdd, Cân neu Salm.
1Llawen floeddiwch chwi i Dduw,
Yr holl ddaear,
2Cenwch ei ogoniant gwiw
Mewn cydlafar;
Gwnewch ei fawl a’i glodydd e’
’N ogoneddus —
Cyd‐ddatganed dae’r a ne’
Gerdd soniarus.
3D’wedwch wrth y Brenin Mawr,
Mor ofnadwy
Yw dy waith yn nef a llawr —
Annhraethadwy;
Herwydd maint dy nerth fe ddaw
Dy elynion
I ymostwng yn eu braw
I ti ’n union.
4Holl drigolion daear lawr
A’th addolant,
Canant hwy i’th enw mawr —
Ië, canant;
5Deuwch, gwelwch wyrthiau Duw,
Mor ofnadwy,
Yw ei waith at ddynolryw —
Mor fawladwy!
6Troi y môr yn sychdir wnaeth,
A’i fraich nerthol,
Ar eu traed trwy ’r afon aeth
Duw â’i bobl;
Ac am hyny llawenhânt
Hwythau ynddo,
Canu ’n llafar iawn a wnant,
Foliant iddo.
Rhan II.
9.8.
7Efe drwy ’i gadernid deyrnasa ’n
Dragywydd yn Ben ar y byd,
Ei lygaid o’r nefoedd edrychant,
A gwel y cenhedloedd i gyd;
Na ddyrched y dynion anufudd
Eu penau yn uchel i’r lan,
Fe dỳn ef eu beilchion olygon
Yn isel i lawr yn y man.
8O bobloedd! bendithiwch yr Arglwydd,
Dyrchefwch ei foliant yn fawr,
9’R hwn geidw ein henaid mewn bywyd,
A’n troed rhag ei lithro i lawr:
10Ti ’n profaist, O Dduw! ac a’n coethaist
Fel coethir yr arian mewn pair,
11Ti ’n dygaist i’r rhwyd, a than wasgfa
Ein henaid mewn heiyrn dynhair.
12Ti wnaethost i ddynion farchogaeth
Yn drwm ar ein penau, O Dduw!
Trwy ’r dwfr a thrwy ’r tân ti a’n tynaist,
Er hyn diangasom yn fyw;
Ti ’n dygaist i dawel le diwall
O’r diwedd, o’n gwaeledd a’n gwarth —
13Do’wn ninnau i’th dŷ âg offrymau
O foliant, fel pêr arogldarth.
Mi dalaf i ti ’r addunedau
14Adroddai ’m gwefusau y dydd,
Bu arnaf gyfyngder a gwasgfa —
O’r rheiny y’m rhoddaist i’n rhydd;
15Offrymaf it’ freision offrymau,
Ac arogldarth hyrddod, pèr, drud,
Aberthaf it’ ychain a bychod —
Ti gaiff y gogoniant i gyd.
Rhan III.
8.7.
16Deuwch, a gwrandewch chwi arnaf,
Y rhai oll a ofnwch Dduw;
A mynegaf i chwi ’r pethau
Wnaeth efe i’m henaid gwiw.
17Llefais i â’m genau arno,
Ac â’m tafod molais ef;
18Pe ’drychaswn ar anwiredd,
Ni wrandawsai ar fy llef.
19Duw yn ddiau glybu ’m gweddi,
A gwrandawodd ef ar lais
Fy ymbiliau taerion arno,
A chyflawni wnaeth fy nghais.
20Bendigedig fyddo ’r Arglwydd
Am na throdd fy ngweddi draw,
Na ’i drugaredd ef oddi wrthyf
Finnau chwaith — hi ddaeth o’i law.
Nodiadau.
Gan nad ydyw enw Dafydd o flaen y salm hon, haerai amryw esbonwyr nad efe a’i cyfansoddodd; ond ni wyddent yn y byd i bwy i’w phriodoli. Ond os nad yw enw Dafydd i’w weled wrthi, y mae llais Dafydd, dybiwn i, i’w glywed yn eglur ynddi. Y mae y geiriau yn adn. 15 — “Offrymaf i ti boeth‐offrymau breision, ynghyd âg arogldarth hyrddod, aberthaf ychain a bychod” — yn ddigon wrthynt eu hunain, dybygaf, i brofi pwy oedd tad y salm. Offrymau ac aberthau brenhinol a olygir yn amlwg. Ni soniai dyn cyffredin am offrymu aberthau mor gostus.
Salm briodol iawn i’r amser y teimlodd Dafydd ei orsedd wedi ei llawn sefydlu dano ar ol uniad y llwythau yn ei frenhiniaeth, a darostyngiad y cenhedloedd gelynol o amgylch ydyw. Wedi galw ar yr holl ddaear — holl wlad Israel yn neillduol a olygir yma yn ddiau — i foliannu yr Arglwydd, a gosod geiriau yn ngenau y bobl i’w glodfori ef, yn yr olwg ar ei fawredd anfeidrol ynddo ei hun, a mawredd ei weithredoedd tuag at feibion dynion yn gyffredinol, a’i bobl etholedig yn neillduol, adolyga y Salmydd y cyflwr isel, gwasgedig, a thlawd y buasai y genedl ynddo dan orthrymder eu gelynion yn niwedd teyrnasiad Saul, ac ar ol ei farwolaeth ef, hyd nes y dyrchafwyd hwy, drwy ffafr Duw iddynt yn muddugoliaethau Dafydd. Am y ffafr ddwyfol hon y geilw efe mor wresog arnynt i foliannu yr Arglwydd, ac yr adduneda i wneyd hyny mewn caniadau a thrwy boeth‐offrymau breision a chostus. Pe byddem yn fwy diolchgar am y trugareddau a’r bendithion a dderbyniasom, caem fwy o honynt i’w derbyn a’u mwynhau. Nid oes un ymddygiad mwy, nac mor effeithiol, i attal cymmwynasgarwch yn mhlith dynion ag anniolchgarwch o du derbynydd cymmwynas.

Currently Selected:

Salmau 66: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in