YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 83

83
SALM LXXXIII.
10au.
Cân neu Salm Asaph.
1O Dduw! na thaw, ac na ostega ’n hwy,
O Dduw! na fydd yn llonydd bellach mwy;
2D’ elynion sy’n terfysgu yn barhaus,
Cwyd dynion gau eu penau yn sarhaus.
3Ymgyfrinachu yn ddichellgar wnant,
Fradwrus lu, yn d’ erbyn di a’th blant:
4Dywedant, Deuwch a dyfethwn hwy;
Na chofier byth mo enw Israel mwy.
5Cydymgynghorant felly o un fryd,
Gan gydymro’i yn d’ erbyn di o hyd;
6’R Edomiaid a’r Ismaeliaid ar un llaw,
Moabiaid a’r Hagariaid hwythau draw.
7Plant Gebal a phlant Ammon, yn gyttûn,
Yr Amaleciaid a’r Philistiaid blin,
Preswylwyr Tyrus, 8Assur fawr a’i llu,
Yn fraich a nerth i feibion Lot a fu.
9Gwna iddynt fel y gwnait i Midian gynt,
Ac fel i Sisera ac Iabin flin eu hynt:
10Yn Endor wrth hen afon Cison gwnaed
Hwy ’n dail i’r maes, i’w sathru oll dan draed.
11Gwna eu gwŷr mawr fel Oreb ac fel Zeeb,
Fel na b’o mwy i’w gael o honynt neb:
Fel Zebah a Salmun gwna ’u twysogion oll —
Yn llwyr o’r byd aent hwy i gyd ar goll.
12Y rhai yn gâs dd’wedasant yn eu gwŷn,
Anneddau Duw, meddiannwn hwy bob un;
13Deffro, O Dduw! fel olwyn gosod hwynt,
Ac megys sofl yn treiglo o flaen y gwynt.
14Fel llysg y tân y coed yn ulw mân,
Ac fel y deifia ’r fflam fynyddau o’i blaen,
15Erlidia di hwy felly â’th dymmestl gre’,
Dychryna hwynt â’th gorwynt yn y ne’.
16Gwisg eu hwynebau oll â gwarth yn awr,
Fel ceisiont hwy dy enw, Arglwydd mawr:
17Mewn trallod a gwaradwydd troant hwy;
Na chlywer byth mo sŵn eu dadwrdd mwy.
18Fel y gwybyddo pawb mai ti sy’ Dduw,
Dy enw mawr, IEHOFAH, unig yw;
Ti, yr hwn wyt Oruchaf ben y byd,
Ac yr arswydant ger dy fron i gyd.
Nodiadau.
O bob amgylchiad yn hanes gwladwriaeth Israel, yr hanes am gynghrair yr Edomiaid a’r Moabiaid, a thrigolion Mynydd Seir, a’u cynghreiriaid o genhedloedd ereill, yn erbyn Iehosaphat, yn 2 Cron. xx., sydd yn cyfatteb oreu i’r disgrifiad yn y salm hon; felly, nid Asaph y Pencerdd yn amser Dafydd, nac Asaph y Gweledydd yn amser Hezeciah, oedd ei hawdwr. Yr oedd y cyntaf wedi marw, a’r olaf heb ei eni, y pryd hwnw. Dywedir yn yr hanes am yr amgylchiad y cyfeiriwyd ato i Ysbryd yr Arglwydd ddyfod “ar Iahaziel mab Zechariah, fab Benaiah, fab Ieiel, fab Mattaniah, Lefiad o feibion Asaph. . . yn nghanol y gynnulleidfa,” ac iddo ragfynegu llwyr ddinystr y cynghreiriaid hyny, heb i Iehosaphat a’i wŷr wneyd dim ond sefyll yn llonydd, i edrych ar y dinystr a ddygai yr Arglwydd ar eu gelynion; ac felly, nis gall dim fod yn fwy naturiol na’r dyb mai y Lefiad hwnw o feibion Asaph oedd awdwr y salm hon. Gallem dybio hefyd yn ddigon naturiol fod y Lefiad duwiolfrydig hwn, pan yr oedd Iehosaphat a’i wŷr mewn digalondid ac ofn mawr, yn yr olwg ar y dyrfa fawr oedd yn dyfod i’w herbyn, yn gweddïo am gyfryngiad dwyfol er dinystr y gelynion, ac mai y salm hon oedd ei weddi; ac mai pan yr oedd yn ei gweddïo y disgynodd Ysbryd yr Arglwydd arno, ac y traddododd ei brophwydoliaeth nodedig am lwyr ddinystr y gelynion, yr hon a gyflawnwyd dranoeth i’r llythyren; canys trodd y gwahanol genhedloedd cynghreiriol hyny i ddyfetha y naill y llall — yr hyn a wnaethant mor lwyr, fel na adawyd un o honynt, heb i Iehosaphat a’i wŷr ergydio saeth na diweinio cledd yn eu herbyn. Aeth y weddi i’r nefoedd, a daeth â’i hatteb yn ol yn uniongyrchol; a’r dydd nesaf, cyflawnwyd dymuniadau y weddi a geiriau y brophwydoliaeth mewn modd mor hynod ac arswydlawn ag a barai i ofn Duw Israel gerdded drwy’r holl deyrnasoedd cylchynol. Yr oedd dynion yr Ysgrythyr, druain disyml! yn credu yn nerth ac effeithioldeb gweddi: ni ddaeth erioed i’w meddyliau hwy i appwyntio cynghor o ddoethion i wneyd ymchwiliad i’r cwestiwn, er penderfynu a oedd y fath beth a gwrandawiad gweddi yn bod, neu yn bossibl i fod, ai nad oedd! Na: aent hwy â’u holl achosion a’u trallodion, heb ammheu dim, i’w taenu ger bron Duw mewn gweddi. Credent, nid yn unig y gallai Duw wrandaw gweddi, ond ei fod yn gwneyd — yn gwrandaw eu gweddïau hwy hefyd. Ac y mae adseiniau eu mawl a’u diolchgarwch iddo am hyny yn cerdded trwy glustiau yr holl genhedlaethau byth. Ond y mae doethion a gwyddonwyr yn ein dyddiau ni yn gwybod amgen pethau, dybygid; ac ysgydwant eu penau dysgedig mewn dirmyg ar hygoeledd yr hen weddïwyr hyny, a phawb cyffelyb iddynt! [Gwel nodiadau ar Salm xlvii., yr hon a briodolir i’r un amgylchiad.]

Currently Selected:

Salmau 83: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in